Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Date: 3 February 1915

Transcript:

"GORCHEST" SUDDLONGAU GERMANI.
SUDDO TAIR LLONG FASNACH.
STORI BECHGYN CYMREIG.

Cymerodd datblygiad cyffrous le ddydd Sadwrn ym mholisi newydd Llynghesydd Germani, i geisio rhwystro masnach Prydain drwy suddo ei llongau, pryd y llwyddodd un o suddlongau cryfaf a diweddaraf y gelyn—y U21, i suddo tair o agerlongau masnach yn yr Irish Sea. Eu henwau ydoedd Ben Canachan [sic], llong lo 3,000 tunell; Linda Blanche, llong fechan 600 tunell; a'r Kilcorn [sic], llong lo 456 tunell. Gofalodd y Germaniaid am fywydau dwylaw y tair llong, a rhoddasant amser iddynt adael y llongau cyn eu chwythu i fyny. Glaniwyd dwylaw y ddwy long flaenaf yn Fleetwood, a dwylaw'r Kilcorn yn Douglas, Ynys Manaw.

Gadawodd yr agerlong Ben Canachan, yr hon a gludai lo i'r Llynges Brydeinig, o Gaerdydd gyda 5,000 tunell o lo, a gorchymynwyd iddi gymeryd gweddill o 1,000 tunell i Lerpwl. Pan o fewn tua 15 milltir i bar y Ferswy, bore Sadwrn, ymddanghosodd suddlong yn sydyn wrth ei hochr, ac yn fuan daeth swyddog i fwrdd y suddlong, ac anelwyd magnel at ochr yr agerlong, a gorchy- mynwyd y swyddog i'r olaf stopio. Gofynwyd amryw gwestiynau i gapten yr agerlong ynglyn a'r llwyth a materion eraill, ac yna dywedodd y swyddog Germanaidd, "Y mae'n ddrwg gennyf beri anghyfleustra i chwi, ond rhaid i mi suddo eich llong. Cofiwch mai adeg rhyfel ydyw hi'n awr. Fe gewch ddeng munud i glirio'r llong; gafaelwch mewn cymaint ag yn bosibl o'ch eiddo a'ch arian." Tynodd ei oriawr allan, tra y brysiodd y dwylaw i gasglu eu dillad ag eiddo personol; ac ymhen deng munud yr oedd y dwylaw, 23 mewn nifer, yn cychwyn oddiwrth y llong mewn dau gwch bychan. Fel y gadawent, gosododd y Germaniaid belenau ffrwydroi yn yr agerlong, ac ymhen tua deng munud gwelwyd y llong yn rhwygo gyda ffrwydriad nerthol, a suddodd ar unwaith.

Yna gwelwyd y suddlong yn diflanu tan y dwfr, gan fyned ymaith mewn ymchwil am ysglyfaeth arall. Gwelwyd hi nesaf tua hanner dydd pan y daeth i'r wyneb o fewn chwarter milltir y tu ol i'r agerlong y Linda Blanche. Aed drwy yr un seremoni ag yn flaenorol, a gorchymynwyd y capten i ddod ar fwrdd y suddlong i ddangos ei bapurau, a thra yr elai'r ymchwiliad ymlaen, rhooddodd dwylaw'r suddlong sigars a sigarets i'r Prydeinwyr. Yna rhoddwyd deng munud iddynt fyned i ddau gwch bychan, ac yn fuan chwythwyd y llong yn ysgyrion. Perthynai'r Linda Blanche i Gwmni Agerlongau Sir Fon, ac nid oedd ond chwe mis oed.

PROFIAD CYMRY.

Yr oedd nifer o ddwylaw'r Linda Blanche yn frodorion o Fangor, ac achosodd y digwyddad cryn gyffro yn y dref. Cyrhaeddasant y dref fore Sul, a dywedent fod y llong ar fordaith o Fanceinion i Belfast gyda llwyth amrywiol. Yr oeddynt yn morio yn yr Irish Sea fore Sadwrn, pryd y gwaeddodd John Thomas Ellis, nai bychan y Capten, ei fod yn gweled suddlong. Rhedodd y dwylaw i gyd i'r bwrdd yn llawen, gan gredu mai suddlong Brydeinig ydoedd, ond synasant ei gweled yn chwifio baner Germanaidd, a magnel ar ei bwrdd yn cyfeirio atynt. Gwaeddodd un o'r swyddogion mewn Saesneg perffaith am iddynt stopio, a gorchymynwyd tri o'r dynion i fyned ar fwrdd y suddlong, a daeth rhai o'r Germaniaid ar fwrdd y L[i]nda Blanche, gan roddi sigars a sigarets iddynt. Wedi hynny aethant i'r cychod, a chwythwyd y llong yn ddarnau.

Ymhlith y dwylaw yr oedd dau forwr ieuanc o Borthmadog, a chafodd ein gohebydd ymgom a hwy pan aethant drwy orsaf Caernarfon fore Sul am eu cartref. Adroddent yr un ystori, a dywedent iddynt golli eu holl eiddo personol, a chawsant eu dilladu gan Gartref y Morwyr. Siomwyd hwy yn fawr pan welsant mai gelyn ydoedd y suddlong, ond ymddygodd y Germaniaid yn nodedig o foneddigaidd tuagatynt, ac ymddanghosent yn gofidio oherwydd yr hyn a wnaent. Cawsant focsiad o sigars a nifer o sigarets gan y Germaniaid, a chynygient hefyd bar o fenyg iddynt. Paan dderbyniodd y capten ei orchymyn i adael y llong, a'i bod yn myned i'w dinistrio dechreuodd betruso, pryd y daliodd y Germaniaid lawddrylliau atynt, gan roddi deng munud o amser iddynt wneud eu hunain yn ddiogel. Dywedai'r ddau forwr fod yn dda ganddynt gael yn glir a'r suddlong, a gobeithient na chawsent bronad cyffelyb eto.


Source:
"'Gorchest' suddlongau Germani: Suddo tair llong fasnach." Y Dinesydd Cymreig. 3 Feb 1915. 8.

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment