Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

William Hughes from Bow Street, Ceredigion, volunteered for the army in 1914 and served with the Royal Engineers. During the war he wrote a series of letters to a childhood friend, T I Rees (who was in the diplomatic service, based at the British embassy in Venezuela). In these letters, which were mostly written in Welsh, one can trace not only William's physical movements, but also how his mood and attitude towards the war changed. Transcript of letter, sent from D Camp, Avington Park, Winchester East: Annwyl Gyfaill Fe weli wrth y cyfeiriad fy mod wedi ymadael â gwlad y bryniau ac yn gwersyllu mewn gwastadedd diaddurn yn y deheu. Ymadewais ag Abergavenny ar yr wythfed ar hugain o Gorffennaf. Nid lletya ydym yma ond mewn huts sydd wedi eu hadeiladu wrth y miloedd yn lletya milwyr. Y mae y rhai hyn o gylch y ddinas yma sef Winchester. Fel y gwyddost y mae yn hen ddinas a chartref Alfred, brenin cyntaf y Sais. Ceir colofn yn y sgwar i'n atgofio o hyn. Y mae yma Eglwys Gadeiriol hefyd. A beth feddyliet ti! Fe gynhaliwyd ynddi wasanaeth Cymraeg am y tro cyntaf yn ol bob gwybodaeth. Hwyrach y dylaswn fod wedi dweud wrthyt mai yma y mae y fyddin Gymreig yn gwersyllu. Dyna pam y cyhaliwyd y gwasanaeth yno. Cynhwysai lawer o rengoedd a rhifo o leiaf ddeg mil ar hugain yno. South Wales Borderers, Royal Welsh Fusiliers, Welsh Regiments, yn cynnwys 10th Rhondda a 12th Rhondda a 13th Rhondda, Cardiff City Battalion, Swansea Battalion, Carmarthen Battalion gyda R Engineers RFA ASC RAMC. Maent oll yma. Mae ein presenlodeb yn y de yma wedi agor llygaid y Saeson anwybodus hyn. Yn ol yr hyn ddeallaf nid oedd ganddynt syniad cywir amdanom. Gwyddent y bodolem yn y gorllewin ac yn hynod am striko. Bydd pawb o'r milwyr yn mynd i'r ddinas ar nos Sadwrn a Sul. Oddeutu wyth o'r gloch tyrrwn at ein gilydd i'r sgwar i ganu emynau. Aberystwyth, Ton y botel, Huddersfield, Old Derby ac amryw eraill. Synnet fel mae pobl y dref yn tynnu yno i'n gwrando. Cyhaliwn eisteddfodau yn y YMCA Camp yma. Yr wythnos ddiwethaf yr oedd Eisteddfod fawr yn y dref i'r holl Division. Yr oedd y lle yn llawn o bobl y dref. Un o'r trigolion oedd yn barnu, Dr Prendergast, Organydd yr Eglwys Gadeiriol. Addefai nad oedd wedi cwrdd a thyrfa a allai ganu emynau heb lawer o bractis o'r blaen a'u canu gyda'r fath deimlad. Er nad oedd yn gallu deall y geiriau ond yr oedd ysbryd y darn ganddynt bob amser meddai. Mae ein dyfodiad yma wedi bod yn agoriad llygad i'r Sais. Fe gystadleuodd chwech male voice yma yn yr ail ddarn. Cardiff city aeth â'r wobr. Tri oedd am y prif ddarn a'r royal Welsh Fusiliers aeth â hwnnw, y 13th Battalion. Ychydig feddyliais pan ymunais y byddwn tu yma i'r werydd mewn deg mis ond nid arnom ni mae'r bai. Methu cael taclau neu equipment ydym ond yr wyf bron yn sicr y byddwn wedi ymadael a'r wlad hon cyn y Nadolig. Du iawn mae pethau ar hyn yn y Balkan States. Fe fydd y byd i gyd yn fôr o waed cyn bo hir. Ond mae yn rhaid ymladd yn erbyn y canibaliaid hyn. Mae ymddygiad y Twrc yn Armenia yn ofnadwy. Eithaf teilwng o'r Ellmyn sydd yn ei arwain. Clywais fod Evan Taigwynion wedi bod yn yr ymladdfa ddiweddaraf yna. Nid oes gennyf chwaneg ar hyn o bryd Cofion gorau W Hughes

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment