Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Hedd Wyn (1887-1917). Fe'i ganed ger Trawsfynydd, Meir. Ar l gadael yr ysgol bu gartref yn cynorthwyo ei dad ar fferm Yr Ysgwrn. Barddoniaeth oedd ei bethau ac o'i lencyndod bu'n cystadlu'n gyson mewn eisteddfodau. Yn nechrau 1917 ymunodd 15fed Fataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig, a hwyliodd i Ffrainc ym mis Mehefin y flwyddyn honno; fe'i lladdwyd ym Mrwydr Pilken Ridge ar 31 Gorffennaf. Yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw y mis Medi canlynol dyfarnwyd y Gadair i'w awdl ef, ond pan gyhoeddodd yr Archdderwydd fod y bardd wedi ei ladd at faes y gad, gorchuddiwyd y gadair ag amwisg ddu, er mawr alar i'r dorf. Cyhoeddwyd casgliad o'i gerddi wedi'i olygu gan J. J. Williams dan y teitl Cerddi'r Bugail yn 1918. Y mae'r awdl a enillodd iddo Gadair Ddu Penbedw, 'Yr Arwr', yn uniaethu'r myth am Prometheus i symbolaeth Gristnogol ac yn arddangos dylanwad The Revolt of Islam Shelley, a honno a dyrnaid o delynegion yw ei gerddi gorau. Er cof am Hedd Wyn yr ysgrifennodd R. Williams Parry yr englynion enwog sydd yn dechrau gyda'r geiriau, 'Y bardd trwm dan bridd tramor'. Dadorchuddiwyd cerflun pres yn portreadu Hedd Wyn fel bugail yn Nhrawsfynydd yn 1923. Gwnaethpwyd ffilm o stori Hedd Wyn yn 1992. Sgriptiwyd Hedd Wyn gan Alan Llwyd a'i chyfarwyddo gan Paul Turner. Enillodd glwstwr o wobrau rhyngwladol, gan gynnwys Drama Unigol Orau 1992 y Gymdeithas Deledu Frenhinol, ac fe'i henwebwyd am Wobr Oscar yn 1993, yn y categori Ffilm Dramor. Ysgrifennwyd cofiant i Hedd Wyn gan William Morris (1969); gweler hefyd yr ysgrif gan Derwyn Jones yn y gyfrol Ysgrifau Beirniadol VI (gol. J. E. Caerwyn Williams, 1971) a'r erthyglau gan Bethan Phillips, 'A Fine Day's Work', yn Planet (rliif. 72, Rhag. 1988/Ion. 1989) a chan Alan Llwyd yn Poetry Wales (cyf xxviii, rhif. 2, 1992). Cyhoeddwyd Gwae Fi Fy Myw: Cofiant Hedd Wyn gan Alan Llwyd yn 1991, ac ef a olygodd y trydydd argraffiad o Cerddi'r Bugail (1994). Daw'r wybodaeth o'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru: Argraffiad Newydd (gol. Meic Stephens, Caerdydd 1997).

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment