Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Date: 23 February 1915

Transcript:

SUDDO LLONG GER AMLWCH
COLLI PEDWAR BYWYD
Ddydd Sadwrn suddwyd ylong "Cambank" oddeutu pum milltir o Amlwch. Lladdwyd peirianydd a dau daniwr, a boddodd un arall o'r criw wrth geisio neidio i gwch.

Dyma fel yr edrydd gohebydd o Amlwch:—
"Brynhawn heddyw (Sadwrn) brawychwyd trigolion y lle hwn gan y newydd trist fod y 'Cambank' wedi cael ei tharo gyda thorpedo oddeutu pum milltir i'r dwyrain o oleudy Lynas Point. Ymgasglodd tyrfa fawr yn ddiymdroi i weled y rhai a achubwyd yn cyrraedd y lan.

"Galwyd bywydfad Bull Bay allan a dygwyd y dwylo i fewn tua 3.20.

"Dywedodd y first a'r second mate fod y 'Cambank' ar ei mordaith i Garston o New Elba.

"Pan darawyd hi yr oedd ym myned yn ol y cyflymder o 8 knot. Ni roed rhybudd o gwbl gan fad tan-forawl y gelyn. Gwelodd rhai o'r criw y periscope, a dywedodd y pilot ei fod wedi gweled y torpedo yn dod i gyfeiriad y llestr. Gwnaed pob ymdrech i geisio ei ochel, ond ofer a fu pob ymgais gan fod y llestr ym myned mor araf.

"Ymhen oddeutu deng munud yr oedd y llong wedi diflanu'n llwyr. Yr oedd y prif swyddog yn ei gaban ar y pryd, a chyda'r gweddill o'r criw gwlychwyd ef gan y dwfr a ddaeth i mewn ar ol y ffrwydrad. Bu raid iddynt adael eu holl bethau ar ol.

"Yr oedd amryw ohonynt heb esgidiau pan gyrhaeddasant i Amlwch. Buont am dros dair awr yn y cwch cyn iddynt gael eu codi i fyny gan patrol."

Wele stori un arall,or criw:—
"Yr oeddym ar ein mordaith o Huelva, Sbaen, i Lerpwl, gyda, llwyth gwerthfawr o fwn. Pan o'r tu allan i Amlwch cymerasom bilot ar y bwrdd, ac wedi cvchwyn ar y cyf lymder arferol pan welwyd periscope oddeutu 200 o latheni oddiwrthym.

"Trowyd y peirianau yn ol, ond pan oedd y peiriant yn troi tarawodd y torpedo hi. Yr oedd mwg yn gorchuddio pobman."

Dywed gohebydd fod llong-ager a gyrhaeddodd i Lerpwl wedi bod yn siarad gyda'r "Cambank" ychydig cyn deg o'r gloch, a bod y "Cambank" wedi rhybuddio y swyddogion fod bad tan-forawl yn y gymydogaeth. Cyrhaeddodd y llong hon, oherwydd ei bod yn gyflymach, i'r porthladd yn ddiogel.

Source:
Y Genedl

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment