Jennie Phillips (1868-1951). Hidden Histories: Women’s Peace Stories
Items in this story:
As communities and volunteers have been transcribing the 390,296 signatories from the 1923 Welsh Women’s Peace Petition to America, many have been identifying and uncovering the stories behind this generation of women who stood against war. Who were they – and what messages might they have for us 100 years later.
‘Hidden Histories’ project led by the WCIA invited people across Wales to uncover and share ‘peace stories’ behind the 390,296 women who signed the Peace Petition – not just ‘the great and the good’, but the thousands of ordinary women across Wales moved in the aftermath of World War One to petition for peace.
This story and supporting material was contributed by Bleddyn Smith, that explored the history of his great-grand mother, Jennie Phillips.
[story only contributed in Welsh]
Jennie Phillips, Castell-nedd, 1868-1951
Rydw i wedi dewis ymchwilio hanes fy hen-hen mam-gu, Jennie Phillips a oedd yn byw yn 18 Y Green, cymuned yn nhref Castell-nedd, Sir Morgannwg. Llofnododd Jennie, a’i merch hi a oedd hefyd o’r enw Jennie (byddai yn cael ei hadnabod fel Lulu i fy nheulu), y ddeiseb heddwch yn 1923.
Gannwyd Jennie yng Nghastell-nedd ar y 17 o Dachwedd 1868 yn ardal y Green i John Parker cychwr camlas, a’i wraig, Sarah. Roedd Jennie yn un o wyth merch, goroesodd chwech ohonyn nhw eu plentyndod a hefyd roedd ganddi hi bump hanner brodyr a chwiorydd hŷn. Bu farw ei thad hi o TB pan roedd hi yn bedair mlwydd oed, gan adael ei mam i fagu Jennie a’i chwiorydd.
Yn ifanc hi, bu Jennie yn gweithio fel gweithiwr briciau yn y gweithdy briciau lleol, tan briododd hi fy hen, hen dad-cu, gweithiwr briciau o’r enw Rees Broom yn 1888, pan roedd hi yn 19 oed. Cawson nhw chwe phlentyn, yr ifancaf oedd fy hen fam-gu, Martha Broom. Gwnaeth Jennie rhedeg tafarn ‘King William IV ‘yn 18 Y Green o 1890 i 1903, ac yn drist iawn, daeth hi yn weddw pan oedd hi ond yn 32 mlwydd oed, pan fu farw Rees yn 1900. Priododd hi löwr, Jim Phillips yn 1902 ac aeth hi ymlaen i gael 6 plentyn gydag ef ac felly roedd yn fam i gyfanswm o 12 plant. Ar ôl byw mewn cwpwl o dai o gwmpas Y Green, symudon nhw nol i 18 Y Green yn 1922, nad oedd yn dafarn erbyn hynny. O fynna, dechreuodd hi gwmni contract cludo a barhaodd tan yr 1950au.
Yn 1923, roedd Jennie yn byw gyda’i gŵr, Jim; ei phlant hi, Jimmy, Lulu, Lily, Mary, Ivor ac Alice, dwy ferch a oedd yn oedolion; Nellie a Martha ac wyres iddi, Stella. Roedd Y Green yn rhan boblog iawn o’r dref yn llawn tai cyrtiau ‘back-to-back’ gyda phoblogaeth amrywiol o Gymry, Saeson, Gwyddelod a chenhedloedd eraill. Roedd ganddo enw gwael fel rhan amheus o’r dref, ond roedd yno gymuned glos ac roedd Jennie yn falch iawn o’r Green ac ni wnaeth hi byth adael fynna.
Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914, gwnaeth meibion hynaf Jennie; Bertie, Charlie a Thom, i gyd ymuno ar gyfer gwasanaethu. Roedd Bertie yn breifat yn yr 8fed Bataliwn o’r Welch Regiment ac anfonwyd i ymladd yn Gallipoli. Bu farw ar faes y gâd ar yr 8fed o Awst 1915 pan oedd ond yn 26 mlwydd oed. Pan ddaeth arian iawndal i Jennie o ganlyniad i farwolaeth Bertie , taflodd hi'r llythyr yn y tân a dywedodd; “Is this what i bring children into the world for?”
Gwasanaethodd Charlie yn Ffrainc a phrofodd ei wenwyno gan nwy yn ystod y rhyfel ac er bu iddo oroesi, bu farw yn 1929 yn 37 blwydd oed o ganlyniad i anawsterau tymor hir ar ei ysgyfaint. Gwnaeth Tom wasanaethau fel rhingyll hyfforddiant corfforol yn ystod y rhyfel ac fe’i wobrwyd gyda D.C.M am ei waith.
Bu marwolaeth Bertie ac hefyd profiadau meibion eraill Jennie yn gymhelliad clir iddi arwyddo'r ddeiseb heddwch. Collodd hi ei mab hynaf i erchylltra’r rhyfel ac roedd hwn yn sicrhau byddai ei llais hi yn cael ei glywed mewn cymdeithas a oedd yn dibrisio ei llais hi. Mae hi yn tanlinellu’r miloedd o famau a gollodd eu meibion yn ystod y Rhyfel.
Roedd Jennie yn fenyw busnes gall, yn rhedeg tafarn ac wedyn cwmni contract cludo ac roedd hi yn fenyw garedig; bob amser yn barod i helpu ffrindiau a chymdogion, ond roedd hi hefyd yn rym aruthrol o fenyw, ni ddylid cerdded drosti, a hi oedd matriarch y teulu Broom-Phillips.
Bu farw Jennie ar y 19eg Ionawr 1951, yn 82 mlwydd oed, ac erbyn iddi farw roedd hi wedi claddu pump plentyn.
Roedd darganfod llofnod Jennie’s yn brofiad emosiynol iawn oherwydd roeddwn i’n gwybod fel teulu pa mor drwm oedd effaith marwolaeth Bertie ar y teulu Broom-Phillips. Ni wnaeth fy hen-mamgu, Martha Broom (1897-1989) na’i chwaer, Nellie arwyddo'r ddeiseb, ond roedd y ddwy ohonyn nhw y gweithio yn y gwaith tun ac mae’n debygol roedden nhw’n gweithio pan ddaeth trefnwyr y ddeiseb rownd, ond rwy’n gwybod byddai Martha wedi arwyddo’r ddeiseb os oedd ganddi hi’r cyfle, oherwydd roedd hi’n agos iawn i Bertie.
Mae’r ddeiseb heddwch yn neges mor bwysig heddiw, yn enwedig yn y byd presennol rydym yn byw ynddo, hyd yn oed 100 blynedd yn ddiweddarach. Fel person ifanc, mae’n gwneud fi yn falch bod fy nghyndeidiau benywaidd yn rhai o’r bron 400,000 o fenywod a lofnododd y ddeiseb hon, ac mae’n adlewyrchu'r neges ar gyfer heddwch byd a thegwch, sydd yn atseinio dros y cenhedloedd. Os allwn i fyth siarad gyda Jennie byddwn i’n dweud fy mod yn falch ohoni hi am gyfrannu i foment mor bwysig yn hanes Cymru a byddwn yn ei hedmygu hi am ei chryfder a gwytnwch a sut ymdopodd hi efo’r holl frwydrau profodd hi.