'Siôl Fach' a Safety Pin; 'Dished o De' a 'Chacen Berem': Croeso Mam-gu o Gasnewydd-bach

Items in this story:

  • 848
  • Use stars to collect & save items login to save

By John Richard Harris, Puncheston, Pembrokeshire

 

This story is only available in Welsh:

 

A'ch mam-gu, beth odd 'i henw hi wedyn?
Sara.
Mam ych mam odd hi?
Ie. Sara. Sara Harries, ie.
A un o ble odd hi, felly?
Wel, odd hi wedi dod o rown(d) ardal Casnewy Bach, rwle.
Ie?
Ie. Rown(d) ardal Casnewy Bach, rwle. Yn yr ardal rhwle, chwmod. We neb yn priodi'n bell pwrny, chwel. Nagodd. Dala sgwarnog ar claw' gatre pyrny, chwel. Ie. Wanieth â nawr. Achos es fi bwti ugen milltir i wilo am wraig fach, chwel. Do, do. Do, do.
'Na chi. Ond 'dech chi ddim wedi difaru, naddo!
O, dim o gwbwl. Na. 'Na'r ugen milltir gore neud eriôd. Ie, wir.
'Dech chi'n cofio'ch mam-gu yn dda iawn?
Odw, cofio, a 'Mam' on i galw (h)i. Cofio amdani yn ishte mewn cader gatre. Cader, wel, sim cader felna gal heddi, chwel. Chwmo, we cader felna yn antique, chwel. Stôl. O stôl menyw, a stôl dyn, ychwel. Stôl Da(d)-cu a stôl Mam-gu, chwel. A cewn [cefn] uchel iddi, chwmo. Stôl bren, chwel. A breiche iddi. Cewn uchel iddi. Cofio am 'na'n iawn, chwel. Odw, cofio am stole 'na.

Chi'n cofio'ch mam-gu?
A siôl ar gwar Mam-gu o (h)yd, ychwel. Defnydd, chwel. Brethyn, rwbeth felna. ...
Chi'n 'i chofio hi'n siarad efo chi?
O, cofio siarad pethe. Drychy(d) ar 'i gwallt (h)i o (h)yd. Pan on i'n blentyn, on i ffilu diall shw(d) o gwallt mor wyn 'da (h)i. ... Achos gwallt Mam, wedyn, mwy du. 'Na beth on i ffilu diall, chwel, pan on i blentyn. Gwallt gwyn iawn 'da Mam-gu, chwel, a'r siôl fach 'ma wedyn. A'r safety pin 'ma wedyn. Safety pin, sach chi'n gweld, yn dala siôl 'da'i gily, chwel. Ie. A dwi cofio Mam-gu nawr, codi lan nawr, chwmod. A oedran mowr 'da (h)i ... a ffrog ddu fowr 'da (h)i hongian i'r llawr, chwel. A honno'n sheino. Defnydd yn sheino, chwel. Och chi 'im gwel(d) shoes, ychwel. Clocs [odd ar 'i] thrâd (h)i o (h)yd. Och chi 'im gwel(d) clocs, chwel. Yr unig pryd on i'n gwel(d) clocs, pan odd (h)i'n ishte lawr, a gwel(d) blân 'i chlocs (h)i wedyn. A'r defnydd du 'da (h)i, chwmod, y ffrog ddu fowr 'ma, chwel. Wedd (h)i'n sheino. 'Na ddefnydd pert. Dwi'n dechre cofio, meddwl am hynny, chwel, pwy fath o ddefnydd odd e.

Sut bydde (h)i'n siarad efo chi?
O, wedd (h)i'n siarad, 'Der cal dished de. Nawrde, wyt ti isie dafell o fara menyn? Ti isie caws 'dag e?' Felna odd (h)i o hyd. 'Ne pishyn bach o gêc, nawr.' A dwi cofio 'na beth odd gyda Mam-gu o hyd, ychwel: 'Dished o de, nawrde, a cêc berem.' Cyfan [wedi] gwitho gatre pyrny, chwel. Bara gatre, menyn gatre, cêc gatre, popeth. A caws gatre. Caws gatre, chwel. Ond te, chwel. Dim on(d) y dŵr yn dod o gatre, chwel. Ie, ie. Digon o lath wrtho. A dwi cofio Mam-gu - on i fachan am cêc berem wedi gwitho mâs, chwmod, a rhoi lot o ferem yn cêc. O cêc berem i gal. Dew! Sleisen o honna. 'Na gêc ffein. A corens a syltanas bach yndo, 'tê. Dew! Odd o neis, chwel. Odd. A dwi 'di meddwl, odd (h)i roi tam' bach o siwgir brown ne rwbeth ar ben o wedyn. On i lico crwstyn y gêc wedyn, ar ben y gêc, chwel. Odd 'di cal pobi'n neis, crasu'n neis. A dwi meddwl bo(d) siwgir ar ben honno 'da (h)i, chwel. ... Odd e'n delicious. Blasus, chwel, cêc berem.

A ble byddech chi'n 'i gweld hi, wedyn? Och chi'n byw yn Troed-y-rhiw. On(d) fydde hi ddim yn byw hefo chi?
Wel, odd (h)i'n byw - byti lawr yn pentre odd (h)i'n byw, chwel. Byti filltir wrthon ni. A fues i draw [at] Mam-gu byti bob dydd, chwel. Odd rhaid gwel(d) Mam-gu. O, oedd. A dwi cofio do(d) miwn trw'r drws, a bysen ni mâs, slow do(d) miwn. 'Ble ma plant 'da ti? Nawrde. Ro tecil ar tân nawr. Ma siŵr fo(d) isie bwyd arnw.' A dim on(d) wedi dŵa(d) o'r ford on i, chwel. O bwyd peth cynta 'da (h)i, chwel. Bwyd peth cynta.
Croeso.
O croeso, chwel. Pwy bynnag o dŵad i'r tŷ, chwel, croeso, chwel, dished o de, chwel. 'Run peth â Mam. Pwy bynnag o'n galw 'da Mam. O croeso, chwel. Glase o home-brewed a cacen berem, chwel.
Ie.
Cacen cwrens.

Tapiau: AWC 5466-68. Recordiwyd: 29.vi.1977, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwr: John Richard Harries ('Dic y Cwm'), sir Benfro.
Ganed: 11.vii.1931, yn Nhroed-y-rhiw, Cas-mael. Roedd ei fam, Rowena, yn ferch Richard Harries, Pen-graig, Cas-mael. Yntau'n briod â Serah Harries o ardal Casnewydd-bach. Roedd ei dad, Jim Harries, yn fab Melin Wern (tyddyn a melin ddŵr yn malu blawd), Cas-mael. Roedd ei rieni yntau o gylch Dinas, sir Benfro.

Wedi ymadael o'r ysgol, bu Richard Harries yn was fferm mewn amryw lefydd yn lleol. Yna, am gyfnod o 8 mlynedd, bu'n crwydro llawer fel goruchwyliwr i gwmni yn gosod gwifrau teliffon ar y ffordd fawr. Cyfnod byr wedyn yn gweithio i gwmni adeiladu. Yn 1959 symudodd ef a'i briod, Barbara, o dyddyn o'r enw Lodge, Clunderwen, i dyddyn arall o'r enw Cwm, Cas-mael, ble gwnaed y recordiad. Yn ystod y blynyddoedd hyn bu hefyd yn ymhél â llu mawr o swyddi, megis prynu a gwerthu coed, gyrru lorïau a pheiriannau, gwerthu hufen iâ, gwerthu recordiau sain, a gwerthu sglodion (gyda fan). Ond un o brif ddiddordebau J Richard Harries yw ceffylau. Bu'n cadw ceffylau bron ar hyd ei oes, ac yn eu defnyddio'n gyson i drin y tir.

 

Y mae'r detholiad o eitemau llafar a ddetholwyd i'w cynnwys yn y cynllun hwn, 'Aur Dan y Rhedyn', yn adlewyrchu'n amlwg iawn gred ddiysgog J Richard Harries, fel cred ei rieni a'i hynafiaid, yn y goruwchnaturiol. Y mae'r cyfan o'r hanesion a adroddir, boed yn brofiadau personol neu'n brofiadau a berthyn i aelodau ei deulu agos, wedi'u hadrodd ganddo fel un sy'n credu'n gydwybodol fod pob hanesyn yn gwbl wir. Meddai wrth adrodd profiad goruwchnaturiol a gafodd ei dad: 'Ma'r hen fobol, ran fwya, chwel, yn credu pethe. On nhw'n gweld nhw, chwel. Waniaeth â ni nawr, chwel. Ni'n trafaelu rhy gloi i weld nhw, chwel. Ma nhw gal heddi. Ma nhw gal heddi, chwel.'

Feedback