Y Goeden Bechod
Items in this story:
By Serah Trenholme, Nefyn
This story is only available in Welsh:
Ofn: ofn bwganod, ofn yr anwybod, ofn marwolaeth – ac ofn pennaf amryw o drigolion Nefyn gynt oedd teithio, yn arbennig yn y nos, heibio coeden ysgawen ('coeden ysgo' ar lafar gwlad) o'r enw 'Y Goeden Bechod'. Tyfai ger fferm yr Hobwr (Holborn), yn agos i ble mae'r arwydd 'Nefyn' heddiw. Er i Mrs Serah Trenholme gyfaddef wrth sôn amdani: 'Tydw i ddim yn cweilio mewn byganod, a fedrwch chi ddim gneud i mi chwaith, mae arna i ofn', cyflwynodd y profiadau a gafodd pobl eraill ger Y Goeden Bechod gyda pharch a chydymdeimlad.
'Mi oedd 'na goedan ... yn uwch i fyny na'r ffarm [fferm Holborn], a'r un ochr â'r ffarm ... Pen oeddan ni'n blant ac yn mynd i wrando'r band i Ysgol Pen Bryn Hobwr ersdalwm, fyddan ni ofn am yn bywyd pashio'r goedan 'ma, achos oeddan ni'n ei galw hi'n "Goedan Bechod". Pam oeddan ni'n ei galw hi'n hynny, dwn i ddim.
Oedd brawd hynach na fi o ddwy flynadd, Wil, mi aeth i Awstralia, ond pen oedd o'n hogyn ifanc (oeddwn i ryw lafnas - ryw ddeuddag, falla), ydw i'n ei gofio fo'n deud stori am fynd i gyfarfod band Nefyn oedd wedi mynd i ganu i rywla. Ac, wrth gwrs, oedd hi'n hwyr y nos arnyn nhw'n dwad oddno. A mi aeth ei hun - peth rhyfedda fyw iddo fo fynd ei hun, achos fydda gynno fo bartnar. (Ac un drwg oedd o, fydda yn bob drygiau, cofiwch.) Oedd brawd hynach i fi'n perthyn i'r band yn canu euphonium, a wedyn oedd Wil, fy mrawd arall, yn mynd i'w cyfarfod nhw tuag at Bryn Cynan [tŷ tafarn] - mae hynny filltir o Nefyn. A pen oedd o'n pashio yn ymyl y Goedan Bechod 'ma, be wela fo ond fflyd o lygod mawr yn croesi'r lôn. Wel, fysa hynny ddim byd newydd mewn ffermdy, na fysa, ond yn eu canol nhw oedd 'na ddyn a chwip fawr gynno fo, medda fo. Oedd o wedi dychryn gimint, mi redodd bob cam nes clywodd o'r brêc fydda gynnyn nhw ersdalwm a cheffyl yn cario'r band - mi redodd at Bryn Cynan. A mi oedd o'n falch ofnadwy o glywad sŵn y goetsh 'ma'n dwad efo'r band. Ac ar step honno doth o adra i Nefyn bob cam. Pen blynyddodd wedyn ddeudodd o'r stori wrthan ni, fel oedd o wedi dychryn.
Gafodd 'na hogyn ei ladd gwerbyn â'r Goeden Bechod 'ma, ond dwi ddim yn deud bod nelo'r goedan ddim byd â'r peth. "Defi Bach, Madryn Arms" fyddan ni'n ei alw fo, mab i ferch Madryn Arms, Nefyn, 'ma. Oedd o wedi mynd i Bwllheli. Gweithio efo'i ewyrth oedd o ac yn dreifio ryw goetsh, ne rywbath, o Bwllheli, a mi rusiodd y ceffyl yn yml y goedan 'ma, beth bynnag. A mi lladdwyd o. A ŵyr neb hyd heddiw sut hynny - beth bach. Hogyn bach neish iawn oedd Defi. Oeddan i'n ifanc iawn amsar hynny. Oedd o'n hynach na fi.
A mi oedd 'na hen Ddoctor yn Y Dderwen, Nefyn, 'ma, Doctor Huws. Mi fydda gynno fo goetsh a dreifar bob amsar. A mi odd 'na ddyn o'r enw John Owan, Pen Palmant, yn ddreifar ifanc amsar hynny i'r hen Ddoctor Huws. A bob tro bydda fo'n pashio efo'r car a cheffyl heibio'r Goedan Bechod 'ma, fydda'r ceffyl yn cau'n glir â mynd. Peidiwch â gofyn i mi pam.
Wedyn fydda 'na hanas ryw ferch, fydda honno'n cael ei phoeni. Cofiwch, clywad yr hen bobol yn deud y stori 'ma neish i. Dwn i ddim faint oedd f'oed i, 'blaw oeddan ni'n busnesu i wrando pen fydda ryw straeon yn cael eu deud, yn byddan. Yn uwch i fyny dipyn ... tu draw i'r Goedan Bechod ... ar ôl pashio Pen Bryn Hobwr, mi oedd 'na ffermdy a giât i fynd iddo fo. A mi fydda'r hogan 'ma yn deud bod 'na ryw closed carriage a dreifar yn ista ar y sêt, a bod hi'n dwad amdani hi bob tro bydda hi'n mynd i'r tŷ. Oedd pobol ddim yn ei chweilio hi. "Mae rhaid gin i mai sâl ydi hi," medda un. "O, mae 'na rywbath mawr ar ei phen hi", medda'r lleill.
A ryw noson - oedd hi wedi bod yn deud lawar gwaith bod y closed carriage 'ma'n dwad amdani - pen oedd hi yn giât y tŷ, dyma hi'n gweiddi dros y lle bod y goetsh yn dwad a bod hi'n ei gwasgu hi. "Mae hi'n fy ngwasgu fi'n erbyn y rêlings", medda hi. A mi farwodd. Peidiwch â gofyn ei henw hi i mi. Faswn i ddim yn licio deud, achos mae 'na deuluoedd.'
Tâp: AWC 1980. Recordiwyd: 23.x.1968, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwraig: Serah Trenholme (1887-1980), Sir Gaernarfon.
Ganed: 10.iv.1887 yn Ddôr Ddu, Nefyn.
Gwaith: cyn priodi bu'n gweini. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n brif swyddog gyda'r Groes Goch.
Yr oedd gan Serah Trenholme gyfoeth o atgofion. Recordiwyd hi yn helaeth gan staff yr Amgueddfa Werin a gwnaed casét dwbl o'i hatgofion (Cyfres Casetiau Amgueddfa Werin Cymru, rhif 5). Bu'n sgwrsio droeon ar y radio, ac ym 1976 gwnaeth BBC Cymru ffilm ohoni yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf yn y gyfres 'Eira Ddoe'. Y mae ar gael yn yr Amgueddfa Werin hefyd gasgliad helaeth o'i heiddo o hwiangerddi, rhigymau a phenillion a anfonwyd ganddi i gystadleuaeth yn Eisteddfod Powys 1973 (Llsg. AWC 2186/15). Yn 1989 cyhoeddodd Clwb y Bont, Pwllheli, y gyfrol Blas ar Fyw: Atgofion Serah Trenholme, Nefyn, gan Robin Gwyndaf.